P-04-346 Gofal Di-dâl i Blant 3 a 4 yng Nghymru

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal di-dâl i blant 3 a 4 mlwydd oed ar gael mewn modd mwy hyblyg ledled Cymru er mwyn galluogi rhieni, yn enwedig rhieni sy’n gweithio, i ddewis pryd a lle y maent yn cael mynediad at ofal plant di-dâl.

 

Gwybodaeth gynorthwyol:

Mae gan blant 3 a 4 mlwydd oed hawl i gael 15 awr o addysg di-dâl mewn ysgol feithrin cyn iddynt gyrraedd oed ysgol gorfodol. Fodd bynnag, nid yw llawer o rieni sy’n byw o fewn ffiniau ambell i awdurdod lleol yng Nghymru yn gallu defnyddio’r gofal plant di-dâl hwn oherwydd y cyfyngiadau sy’n bodoli.

 

Gall rhieni ym Mro Morgannwg, er enghraifft, ond hawlio gofal plant di-dâl mewn ysgolion meithrin sy’n gysylltiedig ag ysgolion, ac mae’r gofal hwn wedi’i rannu’n 2.5 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fodd bynnag, mae Cyngor Casnewydd yn cynnig ‘gwasanaeth cynhwysfawr’ i rieni, lle mae 12.5 awr ar gael i’w hawlio ar gyfer gofal mewn ysgol feithrin neu feithrinfa breifat o’u dewis nhw. I ryw raddau, mae hyn yn camwahaniaethu yn erbyn rhieni sy’n gweithio mewn rhai awdurdodau lleol ac sy’n methu gollwng a chasglu eu plant am 2.5 awr o ofal plant, sy’n golygu eu bod yn colli’r cyfle i gael gofal plant di-dâl. Ar y llaw arall, mae rhieni eraill yn cael cyfanswm anghymesur o arian tuag at eu costau gofal plant. Annogwn Lywodraeth Cymru i gysoni’r system fel y gall rhieni ymhob awdurdod lleol gael ‘gwasanaeth cynhwysfawr’. Bydd hyn yn sicrhau bod gofal plant di-dâl ar gael i bawb - gan gynnwys rhieni sy’n gweithio.

 

Prif ddeisebydd: Zelda Smith

 

Y dyddiad yr ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf: 29 Tachwedd 2011

Nifer y deisebwyr: 67